Dull Marcsaidd a Freudaidd o drin syniadaeth ac ymchwil cymdeithasol a gwleidyddol yw damcaniaeth feirniadol sydd yn canolbwyntio ar rym mewn strwythurau cymdeithasol. Cafodd ei harloesi yn y 1930au gan Ysgol Frankfurt, sef criw o ysgolheigion yr Institut für Sozialforschung, Prifysgol Frankfurt, yn eu plith Herbert Marcuse, Max Horkheimer, Theodor W. Adorno, Walter Benjamin, ac Erich Fromm. Mae gan ddamcaniaethwyr beirniadol agwedd weithredol at athroniaeth, gan gredu bod yn rhaid i'r ysgolhaig wrth ei waith mynd i'r afael â'r strwythurau grym sydd yn rheoli ac yn gormesu pobl, a cheisio'u gorchfygu.[1]